Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (22)v3 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)
|
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Dulliau Llywodraeth Cymru i Sbarduno’r Economi (30 munud) |
4. Cynnig i ethol Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn yr Aelodau (5 munud)
NDM4820 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth weithredu o dan Reol Sefydlog Rhif 1.7, yn ethol David Melding AC, Mike Hedges AC, Peter Black AC a Jocelyn Davies AC, yn ymddiriedolwyr i gynllun pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle Rosemary Butler AC, John Griffiths AC, yr Arglwydd German a’r Arglwydd Wigley.
|
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4821 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Sefydlu ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’; a
b) Penodi cydlynydd canser annibynnol i oruchwylio gweithredu’r ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’ hwnnw a chodi ymwybyddiaeth o ganser, cydlynu gwasanaethau a hyrwyddo mesurau ataliol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddechrau pwynt 1:
‘Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt b) a rhoi yn ei le:
Adolygu pa gymorth sydd angen ei roi ar lefel Cymru gyfan i gynorthwyo GIG Cymru i fynd i’r afael â chanser
|
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM4822 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y toriad o 41% yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ac effaith niweidiol hynny ar y sector adeiladu; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ysgogi’r economi drwy:
a) Creu cronfa buddsoddiad seilwaith;
b) Defnyddio pwerau benthyg Awdurdodau Lleol;
c) Gweithredu i helpu i gynyddu canran y cwmnïau yng Nghymru sy’n ennill tendrau caffael cyhoeddus; a
d) Chwilio am ffyrdd arloesol o godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith ar wahân i Fenter Cyllid Preifat.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le “Yn nodi’r gostyngiad o 41 y cant yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru; ac”
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2d dileu “ar wahân i Fenter Cyllid Preifat” a rhoi yn ei le “yn cynnwys Banc Buddsoddi Ewrop”.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
Bidio i leoli’r Banc Buddsoddi Gwyrdd yng Nghaerdydd
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu cyn lleied o gontractau Olympaidd a enillwyd dan y llywodraeth “Cymru’n Un" flaenorol, a allai fod wedi bod o fudd i’r sector adeiladu.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Cyflwyno proses ariannu drwy gynyddrannau treth er mwyn galluogi awdurdodau lleol i godi arian cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Sefydlu cronfa arloesedd i gynyddu nifer y patentau a sefydlu cynlluniau mentora busnes.
|
7. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM4824 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Sefydlu Cynllun Canser cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i:
i) osod targedau clir i sicrhau bod y triniaethau gorau sydd ar gael ar gael i bawb yng Nghymru ni waeth pa fath o ganser sydd ganddynt na lle maent yn byw;
ii) datblygu cynlluniau clir ar gyfer canfod canser yn gynharach yng Nghymru.
iii) sicrhau bod cefnogaeth holistaidd yn cael ei darparu i’r rheini sy’n byw â chanser a’u teuluoedd o’r funud maent yn amau bod ganddynt ganser, yn ystod eu triniaeth ac ar ei hôl yn ogystal ag ar ddiwedd bywyd;
b) Sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser; ac
c) Datblygu cynllun i gefnogi’r rheini sy’n goroesi canser.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddechrau pwynt 1:
‘Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau b.) ac c.) a rhoi yn eu lle:
sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar driniaethau canser diogel ac effeithiol mewn modd teg a phrydlon.
|
Cyfnod pleidleisio |
8. Dadl Fer (30 munud)
NDM4823 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Busnesau Bach, Effaith Fawr
|
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mawrth, 18 Hydref 2011